GRAMADEG GRUFFUDD ROBERTS
——————
YR IAITH GYMRAEG
yn erchi gan dduw, lwiddiant a hyfryd
gynnydd mewn gras, anrhydedd, a
gogoniant i'w hanrhydeddussaf
bennadur, ai diball nodded
Wiliam Harbart
Iarll o Benfro
ag Arglwydd o Gaer dydd.
Wrth fyngweled fyhun, er ysllawer o flynyaddoedd, heb bris gan neb arnaf trwy dir cymru, na chwaith ddim gennyf mewn scrifen a phrwyth ynddo i hyphorddi mewn dysg, a dawn fyngharedigion bobl: mi a dybiais (f'anrhydeddfawr Bennaeth) mae da oedd ymy, fyned trwy wledydd Europa i edrych ymysc ieithoedd eraill a gaid yrun cyn ddiystyred i chyflwr a mi, ag mor ddiles i'r bobl sy'n i doedyd. Ond wedi ymy gerdded o fraidd benn yr hyspaen trwy phraingc, Phlandria, ag Alemania, a'r Eidal hyd yn eithaf Calabria tan ymofyn ymhob lle am gyflwr, braint, a helynt yr ieithoedd sydd tu draw i hynny, ni fedraisi weled na chwaith glowed oddiwrth yrun; na bai yn cael gwneuthur yn fawr o honi ymysc pawb