Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd o naturiaeth yn i doedyd. Ag wrth fod pob un o honynt yn cael i'mgeledd, a'i pherchi gen i phobl, hithau drachefn i wneuthur iawn am y caredygrwydd a gafodd, sy'n traethu i'w phobl bob peth a fo gwiw i wybod, hyfryd i glowed, a gogoneddus i wneuthur. Canys nyd oes nag ystori iddyscu henafiaeth na chylfyddyd o enw a lles na gwybodaeth o ddim a dalai i ddysgu nas darfu i'r hyspaniaith, phrangeg, a'r eidaliaith i tanu, ai hau ymysc gwyr i gwlad i dalu am i magwriaeth ai'mgeledd. Pan welais innau hynny, e fu ryfedd iawn gennyf fod y cymru mor ddiddarbod amdanaf a minnau mor ddifudd iddynhwythau; yn anwedig wrth weled fod fynghymru i, o athrylith a synwyr yn abl i'mgystadlu a'r rhai gorau yn imysc nhwy, a minnau mor llawnllythr im scrifennu, cyn gyfoethocced o eiriau, cyn hyned fynechreuad a'r falchaf or ieithoedd a henwaiş. Ynol hir ymgynghori a dyfal fyfyrioe farnwyd nad oedd fodd i mi godi fynghefn i fynu i wneuthur lles i'r gwyr imtrefnodd duw iddynt, nes cael onof yn ganllaw ac yn nodded ym, wr ai ewyllys yn damuno da ymy, ag ai bwyll yn abl i weled y phordd a fyddai im dyrchafu, a hefyd, o rym yn gallu dwyn i benn y peth a ddamunai ag a farnai yn dda ar fy lles. Felly wrth fwrw fy llyfrau ag edrych ple cawn y fath ganllaw a