Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynghorwyd ymmy i cheisio, mi a welaf fod yn ych arglwddiaeth chwi bob un o'r tri phwnc sydd anghenrhaid i mi wrthyn. Canys e wyr holl gymru a lloegr faint ych serch i'r fruttaniaith, pryd na ddoedech wrth gymro ond cymraeg, ie, ymysg penaduriaid y deyrnas: mal y clowais fagod o wyr yn doedyd, tan fawr ddiolch i dduw, weled i pennaeth mewn gradd, a lle cyn uched, yn dangos dirfawr serch oi wlad naturiol ar i'mddygiad ai'madrodd. A bid diau gennych (f'arglwydd urddassol) fod calon pob gwir Gymro yn crychnneittio yn i gorph o wir lawenydd pan glowo wr o'ch anrhydedd chwi yn doedyd i iaith: canys nid oes dim i ennill calonnau adeiliaid yn gystal ag ymgleddu i hiaith a siarad wrthyn bob un yn i iaith naturiol. Hynny a wnaeth fod Mithridates mor enwog,— gwr oedd a dwy deyrnas arhugain tano,—ag yntau yn medru ymddiddan a phawb yn i dafod ihun. Hynny a wnaeth i Garolus y bumed fod cimaint i allu am nad oedd raid iddo wrth un ieithydd i'mddiddan ai holl adeiliaid er i bod o amrafael genedloedd. Hynn a wnaeth ich anrhydedd chwithau fod cimaint i gariad ynghymru, am ych bod mor gariadus i'r gymraeg ag yn i medru mor hyfedr. Tu ag at am bwyll i ddyfeisio phyrdd i'm gossod i rhagof, a grym i wneuthur y peth a welech yn dda, mae