Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pawb yn gwybod nad oes moi diphig ynoch; gan fod yn eglur, nid o fewn lloegr yn unig, eithr ymhob mann y mae son am dani nad oes dim a phrwyth ynddo yn perthynu at stad y deyrnas mewn heddwch a rhyfel ond a luniwyd trwy'ch cyngor, ag a wnaethbwyd trwy'ch grym a'ch cymorth, a'ch anorphwys lafur. Am hynny y mae gennyf obaith yrowron, y byddwch ymy yo arglwydd da i'mdiphin rhag argowedd a drwg, ag im helpu wrth geisio ymossod allan i ddangos f'wyneb ymysc yr ieithoedd eraill nid ydynt well i braint no minnau: ond cael ohonynt imgeledd ai mowrhau gan bennaduriaid a boneddigion i gwlad, ag wrthynny gadel llawer arnafi, a fum cyd heb nag ymgeledd na mowrhaad. Etto pe cawn ynawr ddechrau 'mdrwsio tan ych aden chwi, a gweled o bawb fod wyneb yn pennaeth tu ag attaf, e fyddai bob cymro barod im studio, im cyfoethogi agi'm gwneuthur ya hylwybr ac yn berphaith. Yrhwnn beth os cenhiada ych daioni chwi ymy, mi a obeithiaf, cyn nemawr o ennyd y gwelir o'mgwaithi ymysg y cymru lawer pwnc o ddysg a gwybodaeth ni ellais moi ddangos iddynt hyd yn hynn. Canys wrth y cydnabod a gefais ag ieithoedd eraill, yn hwyr yrowron mi allaf pan fynnwyf gael genthynt bob peth a berthyn at gampau a chynneddfau