Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyr rhinweddol, gynghordioledd gramadeg, flodeuau rectorigyddiaeth, ystriw dialectigyddiaeth, cowreinrhwydd meddygon, pwylledd dinasswyr, gwybodaeth philosophyddion, gorchestion milwyr, duwioldeb theologyddiaeth i ddyscu, helpu, diddanu a pherpheiddio gwyr fyngwlad ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yn golwg y byd, a chymradwy gar bron duw, Yn hynn o orchwyl, os ych anrhydedd chwi a fydd awdur, nodded a chynhorthwy ymy, chwi a gewch yn ddiogel glod tra barha iaith y bruttaniaid, a gwasanaeth ufudd didwyll genthynt i chwi a'ch etifeddion yn y byd yma, a thal didranc gan dduw yn y byd sy'n dowad, yrhwn a ddanfono iwch rwydddeb, a chynnyrch ymhob llawenydd a daioni wrth fodd ach caro.

Ych phyddlonaf law forwyn
yr iaith gymraeg.

——————

IAITH GAMBR YN
annerch yr hygar ddarlleydd.

Aristoteles, gwr o ragoriaeth mewn y dysc a gwybodaeth a ddowad am bob celfyddyd mae bychan ac anrhefnus fydd i dechreuad; ac yna bob ych- ydig tyfy ag ymdacclu a wna, nid ar unwaith, ond o amser i amser trwy fod eraill yn gweled ag yn bwrw at y dechreuad ryw beth nis canfu