Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'r cyntaf na'r ail. Er bod y dechrau fynychaf yn llai no'r ddarn a roesswyd wrtho; etto mae'n galettach ag yn fwy clod, ddychmygu ychydig o newydd nog yw trefnu hyny ai chwanegu yn helaethwych. Am hynny na fid diystr na diflas gennyt fyngweled i yn ymddangos mor ddisas ag mor anhylwybr, canys honn yw'r awr gyntaf yr amcanwyd fynwyn i lwybr celfyddyd. Yr ydoedd y beirdd rhyd cymru yn ceisio fynghadw rhag colli ne gymyscu a'r saesnaeg. Ond nid oedd genthynt phordd yn y byd, nag y ddangos yn fyrr ag yn hyphordd yr odidowrwydd sydd ynof rhagor nog mewn llawer o ieithoedd, na chwaith i fanegi rhessom am fagod o ddirgelion a gaid i gweled, ond chwilio yn fanwl amdanynt, mal y mae gramadegrwyr da yn gwneuthur, pawb in i iaith ihun. herwydd hynn, gan nad wyf ond dechrau etto, rhaid iti (ddarlleydd howddgar) pan welych ar hynnogais ddim a allesid ei ddoedyd wedi adel allan ne ryw beth wedi gyfleu allan o'i ddyledus le, ne ddiphig mewn rhyw phordd arall, beidio a gwaradwyddo'r neb, o ewyllys da ymy, amcanodd fynwyn i fraint celfyddyd. Eithr os perpheiddid di y peth a ddechreuawdd ef, heb ddoedyd iddo mor absen nes dwyn 'hynny i benn, mae ytty fawr ddiolch gennyfi a chantho yntau ; canys nid ydyw ef yn tybied fod