Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynn yn agos i'r perpheiddrwydd y gweddai iddo fod, eithr i geissio denu rhai ai medrai yn well ef a wnaeth orau gallodd yn y drapherth ar blinder y mae ynddo heb gael ennyd im taclusi mal y damunai: a heb gynfigen wrth neb a wnelo yn well nog ef, ond diolch yn gynt iddo am ddwyn i ben y peth a wnaethai ef ihun pes gallassai. Na ryfedda chwaith weled cimaint o fiau wrth brintio, canys yr ydoedd y dynion oedd yn gweithio heb fod nag yn gyfarwydd yn yr iaith nag yn ddisceulus ar i gorchwyl, nag yn rhowiog oi trin ag i gweirio'r pethau a fethai genthynt. Heb law hynn, yr oedd arnynt eisie llythrennau ag amryw nodau afuasai raid wrthynt i brintio yn gyflawn bob pwnc a berthynai attaf. Rhaid ymy ddamuno ar bob cymro bonheddig a rhowiog na bo mwy annaturiol i mi nog yw pobl eraill i iaith i mammau. E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geisio ymwrthod a mi ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim [o] honi. Canys chwi a gewch rai yn gyttrym ag y gwelant afon Hafren, ne glochdai ymwithig a chlowed sais yn doedyd unwaith "good morow", a dechreu. ant ollwng i cymraeg tros gof ai doedyd yn fawr i lediaith; i cymraeg a fydd saesnigaidd,