Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

dychryn wrth glywed rhu disymwth gwynt meiriol, a chreciadau brawychus y rhew yn yr afon.

Doi cymydog ar ei dro, ac ambell rodiadur, i'm cartref ar hirnos gaeaf, i ymgomio wrth y tân mawn yn yr hen dy clyd; a byddai gweled fy ngwyneb bychan llwyd chwilfrydig i yn gwneyd iddynt ddechre adrodd eu hystraeon. Gwyddwn hanes degau o ysbrydion wrth eu henwau, ond mai enw'r adroddwr fyddai f'enw i ar yr ysbryd. Gwyddwn pwy oedd yn medru witsio hefyd, a byddwn yn gochel cyffiniau eu caeau pan yn chwilio am flodau newyddion neu nythod adar.

Eis i'r Ysgol Sul yn fore iawn. Yr wyf yn cofio myned y tro cyntaf yn dda, ar fore braf ym mis Mehefin. Yr oedd yr hen deiliwr wedi bod ar ei draed ymron dan hanner nos i wneyd fy nillad newyddion; nid ar ei draed ychwaith, o ran hynny, ond ar y bwrdd. Yr oedd y gôt a'r trowsus yn barod, ond nid oedd bosibl gwneyd y wasgod mewn pryd. A bu cynhadledd uwch ben y dillad a'r tocion a minnau. Ni wnai'r hen wasgod, yr oedd yn amlwg, gyda'r dillad newyddion ; oherwydd yr oedd amser nythod adar newydd fynd drosodd, ac yr oedd y wasgod wedi bod drwy filldiroedd o wrychoedd. Yr oedd pawb mewn penbleth; ni fynnai neb fy siomi, a minne wedi meddwl cymaint am gael mynd i'r ysgol, ac eto gwelid mai i hynny yr oedd yn rhaid iddi ddod. " Wel, fy nyn dewr i," ebe'r hen deiliwr, "dydi dy wasgod di ddim yn barod, beth wnei di?"

"Mynd i'r ysgol heb yr un," meddwn innau, heb y petrusder lleiaf. "Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen," ebai yntau, "mae hi'n ddigon braf, cau-