RHYDYCHEN.
NID anghofiaf fy siwrne i Rydychen byth. Nis gallaf feddwl am y colegau henafol hynny, a'u hathrawon difrif, heb gofio'r wers ddysgais mor dda yn eu mysg. Hen wir yw y wers honno, ceir hi ym mywyd brenhinoedd a gwladweinyddion yn ogystal ag yn fy mywyd distadl i, sef fod balchder yn dwyn cwymp.
Ni lethid fi gan wyleidd-dra pan benderfynais fynd gan belled a Rhydychen. Yr oedd fy mryd ar basio trwy'r arholiad a elwir Y Fach. Ac nid oeddwn am basio'r Fach yn y dull cyffredin. Yr oeddwn wedi dewis y chwareuon Groeg anhawddaf, a'r awdwr Lladin peryclaf; yr oeddwn wedi darllen digon o Gicero fel y medraswn roddi ambell awgrym iddo sut i berffeithio'i arddull, a chymaint o rif a mesur fel y gallaswn ddannod i Euclid mor ddidrefn oedd ei lyfrau. Yn ddiameu, gwnawn argraff ddofn ar feddyliau f'arholwyr.
Ni thery Rhydychen yr ymwelydd fawr ar y dechreu, — meusydd gwastad ac ystrydoedd newydd welais gyntaf. Ond pan ddeuais i gynteddau Balliol, — ei adeiladau henafol, ei goed, a'i lennyrch o laswellt gwyrdd, — buan y deallais fod gweled Rhydychen yn addysg. O'm ffenestr gwelwn y myfyrwyr yn darllen dan y coed, a'r brain yn fawr eu twrw uwch eu pennau. Eis allan, a chefais fy hun yn dadlueddu wrth deimlo y glaswellt esmwyth dan droed ac wrth anadlu'r awel hafaidd gynnes. Pan ddeuais yn