ol cefais bapur ar fy mwrdd, ac arno mewn llaw fras anghelfydd, —
"The Master presents his compliments to Mr. Ab Owen, and wishes to have the honour of his company at breakfast tomorrow morning at 8.30."
Nid oedd y llaw yn debyg, feddyliwn, i law ysgolor Groeg enwog; ond yr oeddwn yn casglu llawysgrifau gwyr mawr, a rhoddais hon yn fy Meibl, i'w rhoddi gyda'm trysorau ereill pan awn adre.
Daeth y bore, a chlywn swn clychau afrifed, yn lle dislawrwydd dwys Sabbothol fy nghartref mynyddig. Prysurais i chwilio am dŷ y Master, a chefais fy hun yn unig yn yr ystafell hwyaf a welswn erioed. Nid oedd y Master wedi dod o'r capel eto, meddai ei was, a theimIwn mor grefyddol y rhaid ei fod. Toc dechreuodd amryw fechgyn lithro i'r ystafell. Edrychent yn swil, ac yn anhapus iawn. Ceisiais dynnu sgwrs gyfeillgar â rhai ohonynt, ond ni chefais fawr o dderbyniad. Wedi cynnyg ofer neu ddau, dechreuais ddyfalu pa fath ddyn fyddai Jowett pan ddeuai o'r capel, — tybed ai gŵr tal a barf hir a llais dwfn melodaidd, un wnai inni deimlo'n gartrefol ar unwaith, un a'n llenwai â brwdfrydedd am wybodaeth cyn i ni orffen e'in brecwest?
Dyma hen wr bach yn dod i mewn, a gwallt arianaidd teneu; rhwbiai ei ddwylaw yn anfoddog, a meddyliwn hwyrach iddo glywed pregeth sal yn y capel. Perodd i ni eistedd i lawr, mewn tri gair; a dechreuasom frecwesta mewn distawrwydd llethol. Eisteddwn i wrth ben y bwrdd, — nis gwn sut y daethum yno. — a buaswn