yn dweyd gair pe medraswn ddal llygad rhywun yn edrych arnaf. Ond edrychai pawb ar y bwrdd, fel pe mewn ofn. Toc cododd y Master ei ben, edrychodd arnom yn flinedig, a dywedodd mewn llais main bach,
"Foneddigion, buasai'n dda gen i pe buase un o honoch yn mentro dweyd rhywbeth."
Yr oeddwn i'n awyddus iawn am ddweyd rhywbeth tarawiadol. Ond, taswn i'n crogi, fedrwn i feddwl am ddim. Aeth y distawrwydd yn ddistawach fyth, a thybiwn y byddai'n debycach i un o'r darluniau oedd ar y muriau ddweyd rhywbeth nag i un ohonom ni. Wedi aros hir a phoenus, dyma'r llais main yn torri'r distawrwydd eto,
" Foneddigion, nid yw yswildod yn bechod, ond y mae'n brofedigaeth fawr i'r neb a'i medd."
Nis gallwn oddef y distawrwydd yn hwy. Gwnes ymdrech i'w dorri, a meddwl anwylaidd gafodd lais, bron heb i mi wybod, —
" Master, onid ydych yn meddwl fod y Cymry yn genedl athrylithgar iawn?"
Edrychodd y bechgyn ereill arnaf gyda braw, a chyda pheth diolchgarwch. Yna clywsant y
llais main didostur o'r pen arall i'r bwrdd, —
" Ydynt, ond y maent yn meddwl tipyn ohonynt eu hunain."
Synnwn am bwy Gymry yr oedd yn meddwl, a meddyliwn y gwnawn gynnyg arall, llai hunanol ei wedd. Yr oedd Ymreolaeth yn unig bwnc y dydd hwnnw, a thybiais y gwellhawn dipyn ar leidyddiaeth y Master, os oedd eisiau. Ac ebe fi, tra gwyliai'r lleill fi gyda chywreinrwydd rhai yn edrych ar ffosyl mewn amgueddfa, —