Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

Dywedais wrth y clerc, yr hwn a ŵyr holl gyfrinion yr arholiadau, fy mod wedi pasio, ond nas gallwn ei hysbysu ar hynny o bryd gyda pha ryw ogoniant. "Os dowch yma am un o'r gloch," meddai, "cewch drwydded las, wedi ei harwyddo gan yr holl arholwyr." Tybiwn y byddai honno yn gymaint o drysor a llawysgrif Jowett. Ond, pan ddois yn ol un o'r gloch, nid oedd yno bapur glas i Audoenus filius Audoeni. Dywedais wrth y clerc fod rhyw gamgymeriad. Cyrhaeddai gwên fawr y clerc i flaen ei ddwy glust wrth ddweyd y gwneid camgymeriadau lawer yno bob dydd arholiad. "Dengys, syr," meddai, "nad ydych wedi pasio."

Rhuthrais ymaith o Rydychen, ac yn y daith dren hir cefais deimlo holl ingoedd balchder wedi ei glwyfo, a hunanoldeb wedi ei lethu. Rhoddais bob gobaith am anrhydedd fel ysgolhaig i fyny, a phenderfynais fod Rhagluniaeth wedi taro'r hoel ar ei phen wrth fy ngwneyd yn bugail defaid. Ond gwnaeth fy ymweliaid â Rhydychen fi'n fwy pwysig lawer na fy haeddiant yn fy ardal fynyddig. Mynnai rhai fy mod yn wr o radd; a phan fyddwn wedi gwneyd araeth fwy eithafol nag arfer yn Swper y Bugeiliaid, dywedai gŵr y Bryn fod holl awdurdod moesol Rhydychen y tu cefn imi.


Daeth dau israddolyn o Falliol heibio'm cartref, ymhen rhai blynyddoedd. Ymysg fy nhrysorau, danghosais iddynt lawysgrif Jowett. Wedi syllu arni, ac edrych ar eu gilydd, — "Brown," meddai Smith, "dylem ddweyd wrth Mr. Ab Owen mai nid llaw Jowett ydyw hon, ond llaw y llechgi hwnnw o was y negesydd."