wch i gôt o'n dynn, a gadewch iddo fynd heb yr un wasgod."
A hynny benderfynwyd. Cychwynnodd y teiliwr adre dros y mynydd, a gadawodd ei ystyllen a'i fflat ar ol, — yn ernes y doi fore dydd Llun i orffen y wasgod.
Yr oeddwn i wedi codi o flaen yr ehedydd bore drannoeth. Ac o'r diwedd daeth amser cychwyn. Cauwyd fy nghot yn ofalus, ac nid oedd berygl i'r botymau newydd ddatod. Rhoddwyd fi ar fainc, yn nosbarth hen wr gydag amryw o'r un oed a phrofìad a mi fy hun. Ar lyfr yr oeddym i edrych, ond blin iawn oedd edrych ar y llyfr o hyd, a gwelais bron bopeth oedd yn digwydd yn yr ysgol. Y mae'r olygfa'n fyw o fy mlaen y funud hon. Y mae dwndwr yr ysgol, lleisiau llawer yn esbonio'r Beibl, yn fy nghlustiau. Dacw'r hen bobl, gydag aml ben gwyn yn crynnu, a phawb bron a'i spectol,— oll erbyn hyn yn y fynwent ger llaw. Dacw'r "dynion," — dynion cydnerth, yn llawn ynni wrth ddadlau a'u gilydd, — erbyn hyn wedi eu torri i lawr, neu'n hen wyr yn yr ysgol fel y gwelais eu tadau. Dacw hog-lanciau, erbyn hyn wedi hen gynefino â throion bywyd ; a dyma ninnau'r plant, ar chwal, erbyn heddyw, ym mhob man. A dacw ddosbarthiadau'r merched, — anesboniadwy iawn i mi oedd merched, rhai na fedrai ddringo'r coed, nac agor cyllell, na lluchio cerrig ond â'u llaw chwith.
Yr A B oedd fy ngwers i y bore hwnnw, ac erbyn dweyd yr holl lythrennau ar ol yr hen athraw, yr oeddwn yn meddwl na welais ddim byd rhyfeddach erioed. Yr oeddwn yn methu dirnad sut yr oedd y plant ereill yn adnabod pob llythyren wrth ei henw; yr oedd yn haws lawer "adnabod ol traed adar. Pan adewais yr