Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/112

Gwirwyd y dudalen hon

5. Nid yw'r athraw yn colli ei gymeriad, o angenrheidrwydd, pan gyll ei dymer. A'r mesur y mesuro y mesurir iddo yntau. Os yw'n wr maddeugar, maddeua'i ddisgyblion iddo yntau. Y mae lle mawr i athraw ym meddwl disgyblion sydd wedi cael y dedwyddwch o faddeu iddo. Y mae dylanwad anorchfygol yng ngwaith athraw da yn cydnabod ei fai.

6. Os deallo'r disgyblion fod ar eu hathraw awydd osgoi trafferth, ffarwel i'w ddefnyddiolioldeb. Nid oes neb yn rhy ddwl nac yn rhy ddiog i beidio teimlo os esgeulusir ef. Os rhaid esgeuluso rhywun, esgeuluser y cyflymaf a'r galluocaf; na wnaer cam â'r araf. Ar y ddafad lesg olaf y mae llygaid y bugail. Ni welais neb erioed na ddeffroai os gwelai fod ei athraw yn cymeryd trafferth gydag ef ac yn pryderu ar ei ran. Yr athraw sydd i fyw er mwyn ei ddigyblion, ac nid ei ddisgyblion er ei fwyn ef.


CAERNARFON :

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMRAEG (CYF)

SWYDDFA "CYMRU."