dinistrio. Y mae'n wir fy mod wedi gosod dannedd ogau yn y gwair yn ystod un oedd wedi fy nghuro; ac y mae'n wir fy mod wedi gosod penweig cochion ar dannau adawsai ysgogyn o glarc yn yr afon; medrwn hefyd ddynwared lleisiau llawer o ferched y fro. Ond gwell oedd gennyf fod ar fy mhen fy hun, yn cynllunio, ac yn gweithio fy nghynlluniau allan. Medru codi pont a medru codi ty oedd fy hoff freuddwyd. Bum am wibdaith droion yn edrych ar hynny o bontydd oedd yn fy nghyrraedd, a darganfyddais o'r diwedd pa fodd yr adeiladwyd hwy, a phaham y safent. Codais ugeiniau o bontydd dros fân aberoedd, pontydd bychain o gerrig mân y gallai gwartheg gerdded drostynt yn hawdd. Weithiau gwnawn bont lydan dros aber, ac ar honno codwn dy bychan fyddai'n ddiddos drwy'r gaeaf, — gyda charped o dywyrch trum esmwyth sych ar ei lawr. Wrth weled fy muriau, dywedai pawb y gwnawn saer maen dan gamp, a chwilid fy achau'n fanwl, i weled i bwy y tebygais. Pan fethid cael neb wedi arfer adeiladu ymysg fy hynafiaid, ond pawb wedi tynnu i lawr, ysgydwai pobl eu pennau, a dywedent na safai fy muriau'n hir.
Er hynny credai pawb y down yn ddyn enwog, os anfonid fi i'r ysgol. Dyna oedd cwestiwn pawb, — "Sut na anfonech y bachgen yma i'r ysgol?" Yr oeddynt yn credu mewn ysgol, a druan o honynt. Ond, o'r diwedd, pan oeddwn rhwng naw a deg oed, penderfynwyd mai i'r ysgol yr oedd yn rhaid i mi fynd. Ac yno, er mawr alar a cholled i mi, y gorfod i mi droi fy wyneb.
Yr oedd yr ysgol yn y Llan, rai milldiroedd o'r fan lle 'roeddwn yn byw. Yr oedd yn eiddo i'r tirfeddiannwr yr oedd ymron yr holl fro yn