beth tebyg i wên dros ei gwyneb pan welodd y tocyn am fy ngwddf i. Dywedodd ryw rigwm hir wrthyf na fedrwn ddeall gair o hono, danghosodd y wialen imi, ond ni chyffyrddodd â mi. Tynnwyd y tocyn i ffwrdd, a deallais wedi hynny mai am siarad Cymraeg y rhoddid ef am wddf.
Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau wedi hynny. Dyma fel y gwneid, — 'pan glywid plentyn yn dweyd gair o Gymraeg, yr oeddis i ddweyd wrth yr athraw, yna rhoddid y tocyn am wddf y siaradwr; ac yr oedd i fod am ei wddf hyd nes y clywai'r hwn a'i gwisgai rywun arall yn siarad Cymraeg, pryd y symudid ef at hwnnw druan. Ar ddiwedd yr ysgol yr oedd yr hwn fyddai yn ei wisgo i gael gwialenodiad ar draws ei law. Bob dydd byddai'r tocyn, fel pe yn ei bwysau ei hun, o bob cwr o'r ysgol, yn dod am fy ngwddf i. Y mae hyn yn gysur i mi hyd heddyw, — ni cheisiais erioed gael llonydd gan y tocyn trwy ei drosglwyddo i un arall. Ni wyddwn ddim am egwyddor y peth, ond yr oedd fy natur yn gwrthryfela yn erbyn y dull melldigedig hwn o ddinistrio sylfeini cymeriad plentyn. Dysgu plentyn i wylio plentyn llai'n siarad iaith ei fam, er mwyn trosglwyddo'r gosb arno ef! Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y doi diwedd yr ysgol.
Erbyn heddyw y mae llawer o'r rhai fu'n cyd-ddysgu â mi, — yn fechgyn ac yn ferched, — wedi marw. Bu rhai farw wedi dioddef a nychu gartref, bu rhai farw mewn gwledydd pell. Plant tyner a charedig oedd y rhain, plant yr oedd cosb un arall yn peri mwy o boen iddynt nag iddo ef. Ac ehedodd llawer o honynt