Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

ymaith cyn gwybod am ddim ond diniweidrwydd a chydymdeimlad. Bum yn meddwl lawer tro, — beth pe buaswn wedi tynnu'r tocyn oddi am fy ngwddf, ac wedi ei roddi am wddf un o'r rhain? Bum yn diolch ar fy ngliniau i Dduw lawer adeg ei fod wedi cadw'r chwerwder hwnnw o fy mywyd.


Y mae llawer o'm hen gyd-ysgolheigion yn fyw, ac yn llwyddo. Ond byddaf yn clywed ambell dro am brofedigaeth lem yn cyfarfod ambell un o honynt. A'r adeg honno, medraf ymgysuro wrth feddwl na fum i yn foddion cosbi yr un o honynt erioed am siarad Cymraeg. Y mae'r bachgen oedd yn is-athraw pan welais i'r ysgol gyntaf yn amaethwr cyfrifol, ac nid ydyw'r blynyddoedd wedi dwyn ymaith y chwerthin chwareus o'i lygaid. Y mae'r eneth hithau'n wraig amaethwr, a'i meddwl yn ehedeg weithiau oddiwrth ei miloedd defaid sy'n pori ar y Berwyn, yn ehedeg yn ol i hen ysgol y Llan.


Nis gwn ym mha le mae'r athrawes, ac ni wa«th gennyf. Nid oes gennyf ond adgof gwan am dani, ni feiddiais edrych arni erioed ond yn llechwraidd. Y mae'n debyg iddi adael ein gwlad fynyddig ni ar y cyfle cyntaf, a symud i ryw ysgol fechan mewn pentref Seisnig. Ni fynnwn wneyd anghyfìawnder à'i chymeriad. Efallai, pe yr adwaenaswn hi yn ei thy, wedi oriau'r ysgol, ei bod yn wraig dyner-galon, ac yn pryderu llawer am danom. Hwyrach mai ar ei chredo yr oedd y bai, ac nid arni hi. Yn ol credo llawer athraw yr adeg honno, ei brif waith oedd dysgu Saesneg i'r plant. A'r ffordd oreu, fe dybid, i gyrraedd yr amcan hwnnw, oedd ymwadu â'r Gymraeg yn gyfan-gwbl, a rhwystro plant siarad dim ond yr