ychydig Saesneg fedrent gofio o lyfrau neu ymadroddion rhywun cyfarwydd â Saesneg. Tybid yn y wlad nas gallai ysgolfeistr siarad Cymraeg, tybid mai sarhad arno oedd tybied hynny. Bum yn meddwl lawer tro wedyn mai dan deimlad cryf o ddyledswydd y rhoddai ysgolfeistri y tocyn am wddf plant. Tybient, hwyrach, fod yn gyfreithlawn iddynt wneyd plentyn yn fradwr, os medrent trwy hynny ddysgu Saesneg iddo. Mor bell ag yr oeddwn i'n mynd, methodd yr oruchwyliaeth. Gwnaeth i mi gashau llyfrau ac ysgol, a chasliau gwybodaeth ei hun; gwnaeth i mi anufuddhau i'm rhieni am y tro cyntaf erioed, trwy ymguddio mewn coedwigoedd rhag mynd i'r ysgol; gwnaeth flynyddoedd ddylasent fod yn flynyddoedd dedwyddaf fy mywyd,— blynyddoedd agor y meddwl a dangos rhyfeddodau iddo, — gwnaeth y blynyddoedd hyn i mi yn chwerwaf rhai.
Hen gyfundrefn felldigedig, diolchaf wrth gofio fod gobaith i mi weled amser y caf ddawnsio ar dy fedd. Nid ar yr ysgol-feistres yr oedd y bai, ond ar y gyfundrefn. Merthyr oedd hi, fel y finnau. Yr oeddwn yn medru iaith, ond ni chymerwyd honno'n foddion i'm haddysgu. Yr oeddwn i'n siarad un iaith, a'm hathrawes yn siarad iaith arall, — ac ni ddysgais ddim. Oni bai am yr Ysgol Sul Gymraeg, buaswn heddyw yn anllythrennog, yn gorfod dibynnu ar arall am y newyddion am iachawdwriaeth. Bum yn dysgu llawer iaith ar ol hynny, eithr ni fu neb mor ynfyd a cheisio dysgu yr un i mi ond trwy gyfrwng iaith a wyddwn yn barod. Yn Gymraeg y medrir dysgu plentyn o Gymro feddwl, a thrwy'r Gymraeg y medrir dysgu iaith arall iddo. Un bore yn yr wythnos