Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

gawn i o Ysgol Sul, a chwe diwrnod o ysgol Saesneg. Fy mhrofiad yn awr ydyw, — yr wyf yn ddyledus am bob peth i'r Ysgol Sul; i'r ysgol Saesneg, nes y daeth Cymro i'm dysgu yn Gymraeg, nid wyf yn ddyledus am ddim. Ond, — fy stori.

Medrais fynd i dy perthynas i mi i gael tamaid; yr oedd y plant yn rhy brysur i'm hatal, pawb yn llawn eisiau bwyd. Ond pan ddois at y porth tuag un, yr oedd y swn wedi mynd fod bachgen od wedi dod i'r ysgol, — bachgen yn medru peth enbyd o ystraeon o bob math. Daliwyd fi gan y beciigyn mwyaf, a gosodwyd fi ar ben carreg, a than boen curfa gorfod i mi ddechreu ar f'ystraeon.

II

Toc, er mawr lawenydd i mi, canodd y gloch. Rhedodd pawb i'r ysgol, a dois innau i lawr o ben fy mhulpud carreg, a rhedais ar eu hol. Wedi mynd i mewn, canfyddais yn union mai ofer oedd fy llawenydd, ac y buasai'n well i mi fod ar ben y garreg nag yn yr ysgol. Ffigiwr amhriodol hwyrach fuasai dweyd mai o'r badell ffrio i'r tân y dois, ond teimlwn mai rhywbeth felly oedd y cyfnewidiad. Gwell i mi, wedi'r cwbl, oedd trugaredd prin ac amynedd byr fy nghyd-ysgolheigion nag anghyfiawnder yr ysgoifeistres.

Yr oedd rhywun direidus wedi rhoi pin a'i ben i fyny ar y fainc, yn y lle y disgwylid i mi eistedd ar fy nyfodiad i'r ysgol. Tybiai'r plant, mae'n ddiau, y dylaswn anfarwoli'm dyfodiad i'r ysgol trwy lamu oddiar y fainc, a rhoi bloedd erchyll, heb un rheswm canfydadwy am y fath hyawdledd. Ond fel y digwyddodd