y peth, nid ar flaen y pin yr eisteddais. Byddai'r person yn eistedd yn y lle y rhoddasid y pin ambell i dro, wedi i'r plant fynd allan, ar ei ymweliadau â'r ysgol i edrych y registers. Daeth i'r ysgol y diwrnod hwnnw, yr oedd yn ffyddlon iawn, fel y dylai gwarcheidwad ysgol fod. A eisteddodd yn ei le arferol, nis gwn.
Ffordd bynnag, pan ddaethom i mewn, galwyd am ddistawrwydd. Daeth distawrwydd fel y distawrwydd glywir o flaen ystorm o fellt a tharanau. Ni fum mewn lle mor ddistaw erioed. Gwyddwn mai peth rhyfedd oedd distawrwydd fel hyn, ni fuaswn yn coelio y medrai cynifer o blant llawn bywyd a direidi fod mor ddistaw. Yr oeddynt fel llygod. Safai'r ysgolfeistres wrth y ddesc, ac yr oedd y wialen yn ei llaw. Deallais wedyn mai pregeth draddodai ar ddyledswydd plant tuag at weinidogion cyfreithlawn yr efengyl, sef eu parchu a'u gwasanaethu ym mha le bynnag yr elem. Ond nid oeddwn i'n deall yr un gair. Yn unig gwelwn ol gwaith ar y wialen, yr oedd y brigau mân wedi cwbl ddirisglo, — a meddyliwn fod hyn yn arwydd ddrwg. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn bur hir. Ehedodd fy meddwl innau at y caeau gwair, at y cerrig mân ar lan yr afon, ac at fy nghi y gwyddwn ei fod yn fy nisgwyl trwy'r dydd. Daeth yr hen dy i'm cof; gwelwn y mŵg yn esgyn o'r corn simdde rhwng y coed, oherwydd yr oedd yn tynnu at amser te; yr oedd mor ddistaw fel y dychmygwn glywed y dwr yn disgyn dros y graig dan y ty. Gwelodd y bachgen osododd y pin yr olwg freuddwydiol oedd arnaf, a gwelodd y wialen. Ni fu'n hir yn gorffen ei gynllun. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn