Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

yng nghader y tafarnwr mawr y tybiwn mai efe oedd brenin y pentref, a phin yn set y pregethwr yn y pulpud, a phin yn seddau yr holl wŷr y clywais fy nhad yn eu darlunio'n eistedd yn y Senedd.


Pan ddaeth hanner awr wedi tri, — awr gollwng, — ymadewais a'r ysgol dan gredu yr edrychid arnaf fel bachgen drwg. Teimlwn fel Ismael, fod llaw pawb yn fy erbyn, a'm llaw innau yn erbyn pawb. Byth er hynny y mae gennyf ryw fath o gydymdeimlad â gwrthryfelwr a chwyldrowr. Pan ddarllennais Goll Gwynfa, lawer blwyddyn wedyn, cydymdeimlwn â Satan er fy ngwaethaf. Pan ddarllennais ei ddrama oreu gwelais fod Shakespeare yn rhoi ei holl athrylith ar waith i gondemnio Macbeth; edmygais innau Facbeth, er ei waethaf. A phan ddarllennais lyfr Iago'r Cyntaf yn erbyn ysmygu, ysmygais unig sigaret fy mywyd fel protest yn ei erbyn.