Yr oedd lliw'r dail yn dechre troi, tua di- wedd Medi, pan ddaeth yr athraw newydd. Yr oeddwn wedi cael bod gartref trwy'r haf, oherwydd y gwaeledd a ddaethai i'm rhan o fynd i'r ysgol. A haf dedwydd oedd hwnnw. Gyda'r defaid yn y mynydd y treuliais y rhan fwyaf o hono. Y mae ein " rhydit "* (*Rhydd-did, rhyddid. Gelwir ef hefyd yn " libart," liberty.) ni ar fron y mynydd mawr, ac y mae afon yn murmur yn ddedwydd wrth lithro dros gerrig gleision a graian glân gyda'i odreu. Y mae ei dwfr mor dryloew fel y medrwn wylio symudiadau'r brithylliaid prydferth oedd yn chware o'i fewn. Y peth cyntaf ddarganfyddais oedd nad oedd yno ysgol i'r brithylliai"d bach ; a dyna'r paham, mi dybiwn, fod eu cynffonnau'n chware mor hoew yn y dŵr. Ar ochr y mynydd yr oedd rhedyn Mair a grug, — gwn eu bod yno eto, er na welais i eu lliwiau gogoned'dus o wyrdd a choch er ys blynyddoedd, oddigerth mewn dychymyg. Yr oedd yno randiroedd eang o fynydd glaswelltog hefyd, ac ni ddaeth o Frussels erioed garped mor esmwyth dan droed a'r mynydd hwnnw yn sychder yr haf. Llawer tro, ar wastadeddau sychion gwledydd pell, y bum yn hiraethu am ddyfroedd grisiaiaidd ffynnon sy'n tarddu dan garreg ar y mynydd hwn. Yn ei gwrr yr oedd pantle cygodol, a sicrha bugeiliaid mai hen gladdfa oedd. Symudwn, bron yn ddiarwybod imi, gyda'r nos, i gwrr arall y rhandir, er fod yno gylchau Tylwyth Teg. Pan ddechreuai cys- godau'r myny'ddoedd ymestyn dros gwm ar ol cwm, nes o'r diwedd yr ymledent dros fy nefaid
Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/28
Gwirwyd y dudalen hon