wialen fedw ar ei ben. Gwelais fod y wialen yno o hyd. Yr oeddwn wedi gobeithio yr ai'r ysgolfeistres a'i gwialen gyda hi, oherwydd y mae hen wialen fedw'n brifo mwy na gwialen fedw newydd. Pan fydd y dail heb lwyr ddod i ffwrdd oddiwrth y wialen, nid yw y loes yn gymaint ; hen wialen fain, wedi gwneyd llawer o waith, ydyw'r beryclaf.
Rhoddwyd fì yn y dosbarth isaf; ac yr oedd lle y dosbarth hwnnw am y fainc a lle'r dosbarth uchaf. Yn y dosbarth uchaf yr oedd geneth o'r un oed a minnau, — y mae merched yn dysgu'n gynt o lawer na bechgyn rywsut. A chyn diwedd ysgol y bore dechreuasom ysgwrsio. Yr oedd hi wedi gorffen ei gwaith ; a minne, druan, heb ddechre. Rhoddodd help i mi dorri rhyw luniau llythyrennau ar fy llech. Benthyg oedd y llech, ac nid oedd gennyf bensel garreg. Rhoddodd yr eneth fenthyg ei phensel hi i mi, ac yr oedd yn gynnes o'i llaw, ac yn ysgrifennu'n esmwyth iawn. Ond gwelais na fynnai'r bensel wneyd rhyfeddodau gyda'm bysedd i fel y gwnai gyda'i bysedd hi. Gwell na'r ysgrifennu oedd yr ysgwrs a gawsom am yr athraw newydd. Yr oedd yr eneth yn gwybod ei hanes i gyd, oherwydd yr oedd wedi bod yn ei chartref. Un o sir Aberteifì oedd, meddle hi. Nid oedd gen i yr un syniad am sir Aberteifi yr adeg honno ond ei bod yn rhywle yng nghanol Lloegr, oherwydd Saesneg oedd iaith y person, ac o'r sir honno yr oedd ef yn digwydd dod. Ond dywedai'm cydymaith fod yr athraw'n medru Cymraeg, "ond i fod o'n Gymraeg go od." "A'i wraig o hefyd," meddai, "piti garw na ddoi hi i'r ysgol, welest ti erioed un mor ffeind." Yr oedd yr athraw a'i wraig wedi dweyd tipyn o'u hanes.