Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/44

Gwirwyd y dudalen hon

dydd ei wylltineb a'r dydd yr ymunodd ei deulu â'r Methodistiaid, clywyd llais aml un fu'n gwrando wedyn ar bregeth ddifrif ddwys yr hen gloc,— yn 1780 dechreuodd Dafydd Cadwaladr bregethu, ym 1781 ganwyd Ebenezer Richards Tregaron, yn 1783 ymsefydlodd Thomas Charles yn y Bala, yn 1787 dechreuodd Robert Roberts Clynog bregethu, a dechreuodd Ebenezer Morris yn 1788. Yn 1789 ymunodd Simon Llwyd â'r Methodistiaid, a thraethai ef ar yr un testun a'r cloc, — sef amseryddiaeth.


Heblaw'r cloc, yr oedd teulu Pen y Geulan yn saith, — gŵr a gwraig, dwy ferch, a thri mab. O'r rhai hyn nid oes ond mab, yr ieuengaf o'r teulu, yn aros yng nghwmni'r cloc, ac y mae ef yn fab penwyn pedwar ugain mlwydd. Lawer noson gaeaf, wrth dân mawn a goleu cannwyll frwyn, pan ruai'r gwynt dros y mynyddoedd mawr, buom yn gwrando ar ymddiddan yr hen wr a thician yr hen gloc. A rhyw ychydig o'r pethau glywais yr adeg honno wyf yn adrodd yn awr.


"Blant, yr hen gloc yma ydi'r Methodist hynaf yn y wlad. Mi gadd dro yn amser y Lli Mawr, ac y mae rhyw lun ar i grefydd byth er hynny. Yn tydi o'n debig i hen grefyddwr? Mae o'n dal ac yn ddu, ac yn edrych yn ddifri arnom ni. Does dim byd feder 'neyd i'r hen gloc wenu. Yn diar i mi, mi fu mewn cwmpeini enwog, ychydig iawn o honom ni gadd fanteision yr hen gloc. 'Roedd.o'n cael y fraint o sefyll wrth ben gwely'r pregethwr yn siambar Pen y Geulan. Mi fu cannoedd, os nad miloedd, o bregethwyr yn gwrando arno. Y mae yma ar y ffordd rhwng De a Gogledd, wyddoch, ac mi fydde'r pregethwyr i gyd yn croesi Bwlch y