nerthol arall yng nghwmni'r hen gloc yma. Mi welwyd Dafydd Morus a Robert Roberts Caernarfon, y ddau ysgydwodd Gymru wedi dyddie Harris, yn cyfarfod yn ei wydd. Rydwi 'n cofio John Jones Blaenannerch yn dwad i'r Gogledd am y tro cynta. Y swper mawr oedd i destun o, gŵr y ty wedi digio, ac y mae i lais, mwyn treiddgar o'n gwaeddi Stepwch i Galfaria yn fy nghlustie i o hyd. 'Rydwi 'n cofio William Morris Cilgeran lawer tro. Pwt o ddyn sionc penfelyn oedd o, a gwyneb crwn glân. 'Roedd i lais o'n fwyn a melus, ond yn codi at ddiwedd y bregeth, ac yn dychrynnu'r caleta a'r mwya di daro. Mi wnaeth o i wawdwyr ddwad i'r seiat; a beirdd hefyd.
Rwyt ti'n cofio yn dda ffasiwn olwg oedd arnynt. Yr oedden nhw'n bur anhebyg yn i hymddangosiad i bregethwyr yr oes yma, on'd 'toedden nhw?"
"Oedden. Clôs pen glin oedd gennyn nhw i gyd, a sane bach naw botwm; ac yr oedd gen rai esgidie topie melynion. Mi fydde Cadwaladr Owen yn grand iawn, mewn clôs penglin o frethyn melyn, a sane bach o'r un lliw. Ond clôs du fydde gen Ebenezer Richards, a sane duon. 'Roedd llawer iawn o'r hen bregethwyr yn dda allan, neu fedrasen nhw ddim fforddio dillad mor gostus. Rydw i'n cofio cyfaill John Llwyd Abergele 'n cwyno i fod wedi rhoi deg swllt a'r hugain am i esgidie topie cochion. Ac medda John Llwyd wrtho,— 'Diolchwch nad ydech chi ddim yn neidar gantroed.' Ond yr oedd rhywbeth yn darawiadol yng ngwynebe'r hen bregethwyr hefyd. Dyn slender tene oedd Evan Harries, a'i lygied yn gneyd i chwi ddisgwyl am ryw air ffraeth o hyd. Dyn llwyd oedd Daniel Jones o Landegai, a