gwyneb hardd glân, a spectol. Dyn hardd iawn oedd Dafydd Roberts Bontfaen, un o'r dynion hardda mewn gwlad. Gwyneb tew mawr pygddu oedd gwyneb William Havard; dyn coch oedd Rhys Phylip, ac un doniol. Pryd tywyll oedd gen John Jones Blaenannerch, a gwallt llaes, y fo oedd y mwya poblogaidd yn y Deheudir i gyd yn i ddydd."
"Am bregethwyr y Deheudir yr wyt ti 'n son o hyd; fu rhad o brgethwyr mawr y Gogledd yng nghwmni'r hen gloc?"
"A deyd y gwir, 'roedd yn well gen i bregethwyr y Deheudir, yr oedd i dawn nhw'n felusach. Ond mi fu'r hen gloc yma'n tician wrth ben llawer o bregethwyr mawr y Gogledd. Mi fu John Elias yma lawer gwaith, mi fu John Jones Talysarn yn canu "Tragwyddoldeb mawr yw d'enw" pan oedd pawb yn cysgu ond y cloc ac ynte, mi fu Dafydd Jones yma hefyd, a Chadwaladr Owen, a Michael Roberts. Mi fu pregethwyr y sir yma hefyd, Enoc Ifan, —
"Ffasiwn un oedd Enoc Ifan?"
"Pwt o ddyn byr, du du, yn dwad i'w gyhoeddiad yn hwyr bob amser, wedi bod yn chwilio'r gwrychoedd am nythod adar bach. 'Doedd o ddim yn ddirwestwr. Mi fydde mam yn darllaw ar gyfer y pregethwyr ; ond yn amser y dirwest mawr, mi fydde'n gofyn cyn dwad a'r cwrw i'r bwrdd. Ac ebe Enoc Ifan,— ' Pam rhaid cosbi'r ceffyl llonydd am fod y drwg yn mynd dros y clawdd ?' Mi gadd Enoc Ifan geffyl gwyllt unwaith yn fenthyg i fynd i'w daith fore Sul, ac mi rhedodd y ceffyl o. 'Roedd yr hen Brice y Rhiwlas yn i gyfarfod o, — 'roedd o'n medru Cymraeg. ' Lle'r ydech chwi'n mynd heddyw, Enoc Ifan?' ' Wn i ar