"Prun o blant Pen y Geulan rodd wy drwg i'r hen Charles Jones Llanarmon?"
"Taw. Mi fu'r hen gloc yma'n tician i Forgan Howel, ac Evan Evans Nant y Glôg, ac Ebenezer Morris, a Richard Dafis o Gaio, a'r hen Hughes Lerpwl, a lluoedd o honyn nhw."
"Yn tydi o'n beth rhyfedd ein bod yn medru dioddef swn y pendil. Y mae yr un fath o hyd, — tip, tip, buase dyn yn meddwl mai poen anioddefol fuase gwrando ar beth mor undonog. Ond y mae'r glust yn rhoi rhyw amrywiaeth a rhythm i'r swn, onide buase stori'r hen gloc yn anioddefol."
"Dene wyt ti'n ddysgu yn yr ysgol? Mae rhyw wirionedd yn y peth wyt ti'n ddeyd. Buase llawer o honom yn anioddefol i'n gilydd oni bai ein bod yn rhoi rhythm dychmygol i stori llawer un. Ond nid pob pregethwr fedre ddiodde stori'r hen gloc ychwaith. 'Roedd o'n gydymaith diddan i John Jones Talysarn a Thomos John wedi i bawb arall droi 'i cefne arnyn nhw. Ond mi fydde John Evans New Inn yn codi o'i wely, ac yn cydio yn i bendil o, — a bydde'r hen gloc yn ddistaw y noson y bydde John Evans yn cysgu ym Mhen y Geulan."
Erbyn hyn, y mae henaint wedi effeithio ar yr hen gloc hefyd. Safodd ryw noson, er nad oedd yr un John Evans New Inn wedd cydio yn ei bendil ac yr oedd mor ddistaw a'r llu o lefarwyr sydd wedi tewi yng Nglyn Distawrwydd. Yr ydym oll wedi dysgu edrych ar y cloc fel bod byw, fel un o honom ninnau, a thybiem mai o fwriad y safodd. Tybiem nad oedd yn hoffì dull yr amseroedd newyddion; daw ceidwadaeth gyda henaint bob amser. Ar ei gyfer saif