Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

rhyw ddandi o gloc bach newydd spon. Prin y mae ei baent newydd aroglus wedi sychu, ac y mae ei got yn edrych yn ffasiynol iawn rhagor cot ddu yr hen gloc. Y mae'r cloc bach yn tician yn fuan fuan, fel pe buasai rywun llawn ffwdan bob amser ar golli'r tren; y mae ticiadau'r hen gloc yn amfaidd a phwyllog, fel pe buasai amser i bob peth. Wrth glywed y ddau gloc yn tician trwy eu gilydd, — llais pwyllog yr hen a llais cyflym y newydd, — meddyliem eu bod yn ffraeo o hyd.


Ac o'r diwedd rhoddodd yr hen gloc y ddadl i fyny, a safodd. Ceisiwyd meddyg clociau gore'r wlad ato, a rhoddodd hwnnw ei holl ddyfais ar waith i wneyd i'r hen bererin methiantus fynd. Ac o'r diwedd, er llawenydd i ni, clywyd y ticiau trymion, — rhai fel pe'n llawn ddieithrwch amser,— drachefn. Prin y tybiem y medrai cwrs amser ddirwyn ymlaen heb neb i'w wylio ond yr ysgogyn cloc bach. Rhowd bysedd yr hen gloc ar yr un fan a bysedd y cloc bach, sef ar hanner dydd ; a chyd- gychwynasant.


Pan aeth yn hir brydnawn, er syndod i ni, nid oedd y clociau'n gytun. Yr oedd bysedd yr hen gloc yn mynd o chwith. Yr oedd yn gwrthod mynd ymlaen i'r dyfodol, ceisiai fynd yn ol at Ebenezer Morris a Thomas John a John Elias a John Jones Talysarn. Yr oedd ein parch mor fawr i'r hen Fethodist fel y tybiem, am eiliad ein dychryn, fod Amser wedi troi'n ol gydag ef, a fod gweddi'r bardd wedi ei gwrando, —

Gerbyd chwim Amser, tro'n ol ar dy hynt,
Gad im fod ennyd yn blentyn fel cynt.