Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

LLYFR Y SEIAT.

" Tariannau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn"
— Can y Caniadau, iv. 4.


I HANESYDD cyfnodau a ddaw, bydd y seiat, nid yn unig yn un o sefydliadau mwyaf dyddorol y ganrif hon, ond yn un o'i sefydliadau mwyaf pwysig hefyd. Ynddi y ffurfiwyd cymeriadau goreu Cymru, ac nid ydyw ei nerth eto wedi dechreu pallu. Ynddi y dysgodd llawer un sy'n rheoli ei ardal, nid yn unig fyw mewn dull rydd awdurdod i'w eiriau, ond hefyd ofalu am "wedd allanol yr achos," — gofalu am gyfarfodydd, am arian, am fusnes ymhob gwedd, gyda ffyddlondeb a manylder a hunan-aberth. Ac fel y mae llywodraeth y wlad yn dod yn fwy gwerinol, y mae dylanwadau'r seiat yn dod yn fwy amlwg. Cafodd y Saeson lawer mwy o fanteision i ddysgu gwersi llywodraeth leol na'r Cymry, a thybir fod ganddynt gyfaddasder neillduol at drefnu a rheoli, — tra mai athrylith wyllt a gwrthryfelgar ydyw athrylith y Celt. Wrth weled y gwaith mawr wna Cynghorau Sir Cymru, gyda medr a than ymdeimlad o gyfrifoldeb, gofynnir pa le a pha bryd y dysgodd y Celt reol, pa le a pha bryd y daeth pwyll arafaidd yn eiddo iddo. Ac atebir, heb gyfeiliorni, mai yn y seiat.


Nid anyddorol, hwyrach, fydd trem ar hanes un seiat. Y mae llyfr seiat, wedi ei gadw'n fanwl ac wedi ei ysgrifennu'n brydferth, o fy mlaen. Yr wyf yn cofio'r gŵr a'i hysgrifen- nodd, — gŵr glandeg a thywysogaidd yr olwg