Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

arno. Yr oedd yn dir-feddiannwr yn ei ardal, ac felly'n fwy anibynnol na'i gyd-grefyddwyr, y rhai oedd braidd i gyd yn denantiaid i dir-feddianwyr oedd yn coleddu efengyl arall, — tir-feddianwyr edrychai ar y seiat fel melldith i'r wlad, oddigerth pan fyddai eisiau cyfarfod gweddi i rwystro'r gwair bydru ar gynhaeaf gwlyb, neu i rwystro'r adlodd losgi'n golsyn gan angerdd gormod gwres. Yr wyf yn cofio un peth am yr ysgrifennwr hwnnw, — byddai arno awydd parhaus am olchi ei ddwylaw. Byddai pasio dwfr meddal cynnes, heb roddi ei ddwylaw ynddo, yn ormod o demtasiwn iddo. Yr oedd arno awydd cadw pob peth yn lan. Llawer gwaith y bum yn mynd a'i lythyrau i'r post, gyda chyngor yn fy nghlustiau, — "Os bydd arnat eisiau ysgrifennu llythyr, cadw ef yn berffaith lân, fydd yr un duwiol yn rhoi bysedd budron hyd ddim." Digon prin y niedrid ymddiried y llythyrau i'm bysedd i heb ddeilen bob ochr i'w hamddiffyn; a byth er hynny, y mae gweled ol fy mys ar unrhyw beth yn gwneyd i mi holi fy hun a ydyw'm cymeriad yn peidio gadael ystaen ar y bywydau ieuainc yr wyf yn dod i gyffyrddiad â hwy.


Hwyrach, ddarllennydd, iti glywed son am blwyf ym mysg plwyfydd Cymru o'r enw Llanuwchllyn. Nid yw hynny yma nac acw, o ran hynny; ond am seiat y lle mynyddig hwnnw yr wyf yn mynd i son. Ni ddywedaf ddim am y lle, ac am y bobl ni ddywedaf ond ychydig, — sef eu bod yn gorfod gweithio'n galed am eu tamaid, a'u bod yn fwy crefyddol ac yn hoffach o feddwl na thrigolion llawer ll y gallaswn ei enwi. Ond y mae'r lle'n ddigon tebyg i leoedd ereill fel y gallwn gymeryd ei seiat yn engraifft o filoedd o seiadau trwy Gymru.