Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

Daeth Howel Harris i Lanuwchllyn yn 1739, a phregethodd i dyrfa oedd yn awyddu am glywed yr efengyl. Nid tyrfa o wŷr bwystfilaidd, yn cael eu harwain gan offeiriad penboeth neu yswain meddw, a gafodd Howel Harris yma, ond pobl garedig a syml. Ni erlidiwyd neb am grefydd yn Llanuwchllyn erioed. Yr oedd yr ardal wedi ei braenaru'n dda cyn i Howel Harris ddod i hau yr had. Yr oedd Rowland Fychan wedi cyfieithu llyfrau duwiol, ac wedi dweyd am faddeuant a hirymaros. Yr oedd Gwerfyl Fychan, — y brydyddes fasweddol y dywedir ei bod yn huno yn yr un fynwenit ag Ann Griffiths, — wedi gadael cywyddau i Dduw a Christ ar lafar gwlad. Yr oedd Morgan Llwyd o Wynedd wedi pregethu yma, ac wedi gadael eglwys Anibynnol flodeuodd trwy aeaf caled hyd nes y gwelodd wanwyn yn nyddiau George Lewis a Michael Jones. Yr oedd y Crynwyr wedi dioddef yma hefyd. Danghosir y fan y pregethent, y mannau y trowd hwy o'u cartrefi, y mannau y gwerthwyd eu heiddo, a'r fynwent werdd neillduedig lle y gorweddant ar y fron uwchlaw Llyn Tegid. A phan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, yr oedd Llanuwchllyn ar lwybr y pregethwyr oedd yn teithio o Dde i Ogledd, ac o Ogledd i Dde. Ychydig o leoedd fu dan ddylanwad grymusach a thynerach, ac y mae'r Llyfr Seiat hwn yn goflyfr am gymeriadau prydferth, yn codi adgofion fel y deheu-wynt yn anadlu dros ardd y brenin i wasgaru ei pher-aroglau.


I. 1739 — 1791. Dyma gyfnod y pregethu achlysurol. Yn 1739 gwelwyd gŵr ieuanc pump ar hugain oed yn sefyll ar ganol y Llan i bregethu i rai cannoedd am drugaredd Duw. Yr oedd acen y De, acen sir Firycheiniog ar dafod