ddoethineb a gochelgarwch mawr. Un tro. gwelwyd y gochelgarwch hwn yn ymylu ar y digrifol. Yr oedd cyfarfod gweddi mewn ty annedd o'r enw Pig y Swch, ac yr oedd un brawd, mewn gweddi hwyliog, wedi gyrru ar y diafol heb fesur. Ar ei ol, galwyd ar grydd bychan bywiog o'r enw Niclas Wmffre. Ac ebe hwnnw, —
“ |
"O Arglwydd mawr, dyro ddoethineb i ni, trwy dy ras. Gwna ni'n ochelgar beth a ddywedom. A gwared ni rhag ymosod gormod ar y gelyn ddyn, rhag ofn iddo fo'n cael ni eto, a deyd, wrth ein fflangellu ni, — ' Ydech chi'n cofio, lads, fel yr oeddech chwi'n gyrru arna i ym Mhig y Swch." |
” |
Os oedd llawer o honynt yn gall fel y sarff, yr oeddynt yn ddiniwed fel y golomen. Tyfodd cryfder eu meddwl a phurdeb eu bywyd ynghyd.
III. 1804—1872. Dyma gyfnod yr hen gapel. Nid oedd tir i'w gael yn agos i'r llan; mwy nag oedd yr amser yr oedd yr Anibynwyr yn codi eu capel hwy. Clywais hen flaenor yn dweyd hanes codi'r capel mewn Cyfarfod Misol. Nid oedd yn un y gallesid meddwl y medrai adrodd hanes yr achos yn hawdd, — yr oedd atal dweyd arno, ac yr oedd ynddo duedd gref at wylo. "Yr oedd yn anodd iawn i ni gael lle i godi capel," meddai. "Yr oedd y tir-feddianwyr i gyd yn meddwl mai dinistrio'r byd oedd ein hamcan. Ond mi roddodd John Jones Plas Deon dir i ni. 'Rydw i'n cofio John Jones. Nid oedd ond un sêt yn y capel. A John Jones oedd yn honno. Wrth edrych ar John Jones y byddem ni'r plant yn gwybod fath bregethwr fyddai yn y pulpud. Os byddai'r