pregethwr yn un sal, pesychai ac edrychai ar ei het. Ond os byddai'n un da, mi griai John Jones; a hen g-griwr iawn oedd o hefyd." Erbyn cyrraedd i'r fan yma yr oedd adgofion bore ei oes wedi gwneyd i'r hen bererin wylo'n lle siarad; a rhyw frawd llai gwlithog orfod orffen yr hanes.
Ie, un sêt oedd yn yr hen gapel. Meinciau oedd eisteddleoedd pawb ond teulu John Jones. Ac fel eglwys y plwyf, brwyn oedd y llawr. Dywedodd meddyg Americanaidd wrthyf fi unwaith ei fod ef yn methu dirnad paham yr oedd mor ychydig o afiechydon ymysg pobl sydd yn byw yn wastad ar lawr cerrig neu briddfeini; nid oes dim yn iach, ebe ef, ond llawr brwyn neu lawr coed. Safai y capel ar lan llyn y ffatri, — yr unig lyn o ddwfr tawel yn y plwy i gyd. Yr oedd ei dalcen i'r tywydd, — i'r gwynt ystormus ruthrai dros y Garneddwen o'r môr, ond yr oedd coed o'i flaen, yn taflu eu cysgodion trosto yng ngwres yr haf. Ar lawer bore Saboth bum yn edrych arno odditan dwmpath o ddrain blodeuog, heibio i olwyn ddŵr y ffatri gerllaw. Nid oedd dim hynotach ynddo, i estron, na'r tai gerllaw; nid oedd iddo ddim tegwch adeiladwaith, — ond mor bwysig ydyw'r hen gapel i fywydau y rhai a fu ynddo. Ynddo cafodd dynion ddysg pan nad oedd ysgol o fewn eu cyrraedd; ynddo cawsant ddiwylliant pan nad oedd cyfarfod llenyddol na phapur newydd o fewn y fro; cawsant barch i awdurdod a deddf pan nad oedd fawr yn y deddfau eu hunain i hawlio ufudd-dod iddynt. Wrth edrych ar y capel heibio i'r olwyn ddŵr, ni welwn ddim o'r mynyddoedd gogoneddus sy'n edrych i lawr ar y capel, ni welwn ond y rhosydd sy'n esgyn yn raddol i ben y Garneddwen, mynydd mor isel