Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/76

Gwirwyd y dudalen hon

nhad gymaint o fwynhad a ninnau a'r ddau fochyn bach. Dro arall, pan oedd wedi lledu ei line bysgota ar y llawr, ac wedi ei dad-ddyrysu'n llwyddiannus iawn, gollyngasom ddwy gath ddu i redeg trwy droion y line. Ni ddywedodd nhad ddim ond mai dyna'r ddau blentyn rhyfeddaf a welodd efe erioed, a'r ddwy gath ddu waethaf.

Hunodd ar fin ei bedwar ugain oed, yr olaf o deulu hoff o grefydd a mwynder a chân. Ei alawon di-rif, ei ystoriau diddan, ei ddywediadau pert, — y mae y rhai hyn yn fy nghof; ond, er chwilio'r pedwar ugain mlynedd yn fanwl, ni fedraf weled un gair celwyddog nac un gair amheus.

Ei noson olaf sydd yn fy nghof heno. Yr oeddwn gydag ef; a wynebai dragwyddoldeb mor fwyn ac mor ddibryder ag y gwynebodd holl droion y byd hwn. Ei hoff bobl oedd yr hen bregethwyr, yn enwedig pregethwyr y Deheudir. Yn ei gartref ef yr arhosent; cofiai wedd a geiriau pob un ohonynt, er na welsai hwy er yr amser y cymerid ef yn blentyn ar eu glin. Tybiwn ei fod. yn ei funudau olaf, yn cydio yn y byd hwn; ond fod yr hen bregethwyr yn ei gyfarfod. Anghofiodd lle yr oedd wrth groesi terfyn deufyd. Capelau'r byd hwn. pregethwyr y byd a ddaw, — treiai edrych yn ol ac ymlaen ar unwaith. Yr oedd yng nghyfarfodydd gweddi ei ieuenctyd, mewn hen gapel llwyd sydd wedi diflannu erbyn hyn. Daeth goleu newydd i'w lygaid, ac ebe ef, —

" Ydi'r bobol i gyd wedi dwad i'r capel ?"
" Na, nid i gyd."
" Wel dos, mewn munud, i ddeyd wrthyn nhw am ddwad. Dacw Ebenezer Morris."