Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

Y BALA.

Y BALA.


"A THITHAU Bethlehem, tir Juda, nid -lleiaf wyt ymhlith tywysogion Juda," — am lawer lle bychan, ar ryw gyfrif neu gilydd, medrir dweyd y geiriau hyn. Tybir yn aml mai lliosogrwydd ei threfydd mawrion yw cyfoeth gwlad, lle mae peiriannau yn fwy pwysig nag eneidiau; ond gwir olud gwlad yw y lleoedd bychain fu'n gartref ei dysgawdwyr ac yn fagwrle ei meddwl. Nid oes yn y Bala weithfeydd na masnach brysur, nid oes fŵg rhyngddi a'r nefoedd ac nid oes na huddugl na pharddu ar ei heolydd. Ni chodwyd cri am dorri'r coed cysgodol sy'n tyfu ar ei heolydd er mwyn i olwynion masnach brysuro drwyddi. Nid oes weithfeydd i lenwi'r aberoedd â duwch ac â gwenwyn, y mae'r Tryweryn a'r Ddyfrdwy fel y grisial, a Llyn Tegid fel môr o wydr. Ond nid ydyw'r Bala yn anenwog er hynny. Draw, ar fin y llyn, dan yw sy'n dduon ac yn dawel fel y nos, gorwedd llu o gedyrn. Yn eu mysg y mae