Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

dacw dŵr ysgwar eglwys Lanfor. Acw, medd traddodiad eto, y claddwyd Llywarch Hen. Dyma ni'n prysuro i fyny hyd lan yr afon, a'r gwastadedd ar ein de. Gwelwn mai dolydd gweiriog ydyw, llawn o feillion, ond dengys yr hesg sy'n tyfu gyda'i ymylon fod yr afon yn codi dros rannau o hono ambell dro.

Saif y tren ar gwrr y gwastadedd. Gwelwn binaclau'r Bala, — ac y mae yno ddau binacl neu dri, — draw wrth draed y bryniau sy'n ymgodi, fel caer uwch gaer, tua chrib las yr Arennig. O'r gyffordd, ail gychwynnwn tua'r dref, yn nhren Ffestiniog. Ar y chwith wrth fyned dyna olygfa wna i ni deimlo ar unwaith fod digon o fwynhad o'n blaenau yn y wlad dawel hon, oherwydd wele lyn Tegid, a'r Aran yn edrych ar ei llun ynddo.

Cyn i ni gael ond cipolwg ar yr olygfa y mae'r tren wedi cyrraedd gorsaf flodeuog, ac wedi sefyll. Ddarllennydd, yr ydym ar "Green y Bala." Y mae gorsaf ffordd haearn wedi ei gosod arni heddyw. Beth ydyw cysegredigrwydd adgofon hanes i gwmni ffordd haearn? Mwyn iddynt hwy fuasai cymeryd cerrig cestyll y canol-oesoedd i wneyd pontydd, — ni fu ond ychydig rhyngddynt a dinistrio Castell Conwy i wneyd arglawdd neu bont. Mwyn iddynt hwy fuasai toddi hen arfau haearn amgueddfeydd y byd, a'u gwneyd yn beiriant i gludo pleserwyr i'w gwyliau Nadolig. Ie, ni synnwn pe cynhygient fod esgyrn y saint i'w gwneyd yn chwi- banoglau i'r gyriedyddion.

Ond nid yw y Green yn orsaf i gyd. Y mae llain o dir rhyngddi a'r Tryweryn sy'n murmur yn ddedwydd wrth ddawnsio dros gerrig crynion glân ar ei ffordd i'r Ddyfrdwy. A'r ochr