crwydi'o o gymoedd yr Aran dros y llyn heddyw; ac y mae llawer hen bererin yn barod i gredu mai, o holl lecynnau Cymru, "yr olaf roir i'r tân fydd Green y Bala."
Ond y mae awyr adfywiol y bore'n rhoi awydd crwydro ynnom, a cherddwn yn gyflym tua'r dre. Yr adeilad cyntaf y down ato ydyw'r Ysgol Ramadegol. Y mae hon yn llechu dan gysgod y Domen, ac "Ysgol Ty tan Domen" y gelwir hi gan hen bobl. Y mae'n adeilad bychan destlus, a golwg ysgol arni. Dacw'r cyntedd o'i blaen, a'r coed fu'n cysgodi llawer cenhedlaeth efrydwyr gramadeg Lladin, a'r gloch. Dacw'r arwydd-air, hefyd, wedi ei dorri mewn carreg felen, — "Heb Dduw, heb ddim." Ysgol rad oedd, i fechgyn tlodion; ond erbyn hyn nid oes addysg rad ynddi, ac y mae ei breintiau erbyn heddyw o gyrraedd plentyn y gweithiwr.[1] Nis gwn beth oedd y Domen uchel sydd wrth gefn yr ysgol, — y mae bron yn sicr mai gwaith celfyddydol ydyw. O'i phen ceir golygfa brydferth iawn, ond anaml y gwelir y trefwyr yn dringo ei hochrau. Bu'n rhydd; mewn hen ddarluniadau o'r Bala, cawn wŷr a gwragedd yn gwau ar nawnddydd haf ar ei hochrau ac ar ei phen; erbyn hyn y mae wedi ei chau, a'i hochrau wedi eu harddurno â choed byth-wyrdd. Wedi gadael yr ysgol dyma " Stryd Fawr " y Bala yn ymagor o'n blaenau, Ar y chwith y mae pen y stryd gefn, ac ar y dde y mae'r ffordd yn arwain at y ddau goleg. Gwelwn goleg y Methodistiaid, adeilad hardd ar fryn; ac y mae coleg yr Anibynwyr am y ffordd ag ef, ond nid
- ↑ Y mae hyn llai gwir beth, ar ol Deddf Addysg; Ganolraddol.