wlad nad yw'n gwneyd dim ond ei sarhau. Ond dacw i chwi hen fonheddwr y mae'r Beibl yn rheol ei fywyd, ac un sy'n credu yn nyfodol gwerin Cymru."
" A fyddai'n well i ni dreio tynnu ysgwrs ag ef?"
Yr oeddwn wedi clywed Anibynnwr Cyfansoddiad Newydd yn dweyd am ymgom a gafodd unwaith ag ef yn y tren. Yr oedd y gŵr hwnnw'n teithio tua'r Bala, a dyma'r holl ysgwrs a fu rhyngddo â gŵr dieithr iddo a eistedd ai ar ei gyfer, —
" Pwy ddrwg mae Michael yn wneyd yrwan?"
" Y fi yw Michael,'nawr."
Ond dyma Fichael D. Jones, blaen-filwr y deffroad Cymreig yn ei holl agweddau, o fewn hyd ffon inni. Dechreuasom siarad ag ef, a chyn pen ychydig o funudau gwelsom fod ei grefydd a'i gariad at Gymru megis yn un. Holai ni beth oeddym yn wneyd dros Gymru gydag awch a phryder; ac wrth ein gadael gwnaeth inni addaw bod ym Modiwan rhwng hanner dydd ac un, gan fod arno eisiau siarad â ni. Symudasom ymlaen ar hyd yr heol, a safasom eto cyn hir i syllu ar y rhes o goed sy'n tyfu hyd ei hymyl, ymron o'r naill ben i'r llall. Hwy yw prydferthwch a neillduolrwydd tref y Bala. Ni fedd adeilad o un pwys na phrydferthwch yn ei phrif heol, — y mae ei Neuadd Drefol yn debycach i garchar nag i ddim arall. "Beth yw'r adeilad acw?" meddem wrth ddyn cloff gwallt-goch oedd yn ceisio gwerthu papur newydd dimai i ni. "Y Loc Yp," ebe yntau am brif adeilad y Bala. Gofynasom a oedd yno siop lyfrau. Danghosodd yntau un, ond teganau a