Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/88

Gwirwyd y dudalen hon

photograffiau oedd y prif nwyddau yn y ffenestr. Gofynasom a oedd yno lyfrfa, ond ni wyddai dyn y papur newydd beth oedd hynny. Gofynasom wedyn a oedd yno gymdeithas lenyddol, gan ein bod wedi clywed llawer o son am lenorion y Bala, a dywedodd yntau fod cymdeithas wedi bod, ond ni wyddai ychwaneg am dani na fod ganddi ginio mawr y nos o flaen y Nadolig, a'i bod yn galw'r White Lion yn " Westy Brenhinol y Llew Gwyn."

Yn edrych arnom o ffenestr fawr ger llaw yr oedd gŵr tal, hawdd gwybod mai meddyg oedd, a hanner chwilfrydedd, hanner direidi yn ei lygaid. Yr oedd wedi fy adnabod i, — yr oedd wedi trafaelio llawer, — a chnociodd y ffenestr arnom. Daeth allan i'n cyfarfod, a bu yn gwmni diddan i ni at awr neu ddwy. Yr oedd ganddo ystôr ddiderfyn o ystraeon, oherwydd yr oedd ei brofiad yn eang, ac yr oedd ganddo lygad i ganfod y digrif a'r difyr. Danghosodd brif leoedd y Bala inni, ac yr oedd ystori yn dilyn bron bob lle. Dywedodd ein bod yn sefyll flaen hen siop ac argraffdy Saunderson, a chartref Siarl Wyn o Benllyn. Gwelsom gapel yr Anibynwyr ar ben ystryd groes, ac yna aethom ymlaen dan y coed at y Groes Fawr. Newydd adael hon troisom ar y chwith ar hyd yr Ystryd Fach. Toc daethom at ysgwar fechan. Ar y naill ochr gwelem gapel y Methodistiaid, a chofgolofn Charles o'r Bala o'i flaen. Yr oedd ychydig o blant yn chware ar y bore tlws o flaen y gofgolofn; a phan ddaethom atynt safasant i edrych arnom mor lonydd a'r plant bach cerfiedig oedd ar y gofgolofn. Dyma lecyn cysegredig yn hanes yr Ysgol Sul. Yr oedd gan y meddyg lawer ystori i'w dweyd am yr hen gapel