a'i bregethwyr, ond prin yr oedd ei ddawn diddan'yn raeddu digon o swyn i dynnu fy meddwl oddiwrth y gwaith mawr wnaed yma dros Gymru drwy'r Ysgol Sul. Yn y cerfddarlun, — o waith Mynorydd, — saif Charles ar ei draed, a Beibl yn ei law. Nid cau ei ddwrn ar y Beibl a herio'r byd, fel cof-golofn Luther yn Worms, a wna; y mae'n debyg iawn i'r Diwygiad Cymreig, — yn dawel, yn addfwyn, yn cynnyg y Beibl fel balm i bob clwy. Ar waelod y golofn y mae darlun o Ysgol Sul Gymreig, a phob oed ynddi. Y mae'r llyn yn gorwedd heddyw heb gymaint a chrychni ar ei wyneb; y mae Allt Ty'n y Bryn, gyda'i rhodfeydd coediog, yn edrych i lawr yn dawel ar hen dref yr Ysgol Sul; y mae Charles a Dafydd Cadwalad yn gorwedd dan yr ywen yn Llanecil draw, — ond y mae'r Beibl yn gweithio'n rymus yng Nghymru o hyd. Y mae rhywbeth yn y Bala i'n hadgofio am y Beibl i ba le bynnag y trown. Yr oohr arall i'r ffordd, dacw Blas yn Dre, yng nghanol gerddi, gyda chae gwyrdd rhyngddo a'r llyn. Plas yn Dre oedd cartref Simon Lloyd, awdwr " Amseryddiaeth y Beibl."Wedi troi'n ol ar hyd y Stryd Bach a chyrraedd y Groes eilwaith, dyma ni wrth dŷ Charles o'r Bala. At hwn, lawer blwyddyn yn ol, y daeth geneth fach flinedig, ar fin yr hwyr, wedi cerdded bob cam o Lanfihangel y Pennant i chwilio am Feibl. Daw darlunydd, hwyrach, i'w dangos yn dod at ddrws gŵr y Beiblau yn blygeiniol, gyda hen bregethwr yn arweinydd iddi. Bu ei hawydd hi am Air y Bywyd yn foddion i gyflenwi awydd miloedd y tu allan i Gymru.
Gadawsom gysgod y coed, ac wedi pasio capel bychan y Bedyddwyr a'r hen "dyrpeg," dyma