Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/97

Gwirwyd y dudalen hon

ABERYSTWYTH.


OS oedd ambell efrydydd yn Aberystwyth a'i syniadau mor gul a mi, nid oedd yno yr un a'i anwybodaeth mor eang a dwfn. Tybiwn fod Tori yn agwedd anhygar ar yr un drwg, ac mai rhinwedd wedi cymeryd gwisg o gnawd oedd Rhyddfrydwr. Os credwn rywbeth yn fwy na hynny, dyma oedd, — mai y Methodistiaid Calfinaidd yw balen y ddaear, ac mai hwy oedd yr unig bobl y gellid dweyd am danynt i sicrwydd eu bod ar y llwybr cul i'r nef. Gwrandewch pa fodd yr ymdarewais ymysg pob math o fechgyn y taflwyd fi i'w canol.

Wedi'r arholiad, cefais fy hun yn crwydro'n rhydd ar Rodfa'r Môr, ar ddydd hyfryd ym Medi. Anghofiais am ennyd mai nid yng Ngogledd Cymru yr oeddwn, a theimlais mai dyma'r lle mwyaf gogoneddus a welais erioed. Cyfaddefais hyn, mewn hanner angof, wrth efrydydd o Randir Mwyn yr oeddwn newydd gael dadl dynn ag ef am ragoriaethau cymharol De a Gogledd. "Odi," meddai, " nid yn unig y mae Rhagluniaeth wedi bendithio'r Deheudir â golygfeydd