Tudalen:Coelion Cymru.pdf/126

Gwirwyd y dudalen hon

o anfodlonrwydd dwyfol i'r ymyriad.

Pan oeddwn yn fachgen, yn fy hen gartref credai pawb ddysgeidiaeth y rhigymau a ganlyn:

Niwl o'r mynydd,
Gwres ar gynnydd;
Daw niwl o'r môr
 glaw yn stôr.

Bryniau Meirion sydd yn ymyl,
Cyn y bore fe geir glaw;
Cilia'r bryniau draw i'r gorwel,
Ac yfory, tes a ddaw.

Un frân ar ei hadain tros feysydd,
Yn gadael y goedwig a'i nyth,
Broffwyda'n ddi-feth am y ddrycin;
Daw curlaw, a'r gwyntoedd a chwyth.

Mawrth yn lladd, Ebrill yn llym;
Rhwng y ddau ni adewir dim.

Wele nifer o arwyddion glaw a geir drwy Gymru:—Cochni awyr ar doriad gwawr; haul y bore yn felyn gwan; yr haul yn machlud yn wan a chlafaidd; corn isaf lleuad newydd yn ymollwng; cylch am y lleuad; barrug y bore, oni phery am dridiau; gwenoliaid yn ehedeg yn isel fin nos; y gwylanod yn ehedeg i'r tir; y defaid yn tynnu i gysgod; ci yn pori glaswellt; y merlynnod yn gadael y bryniau am y dyffryn; moch yn rhochian a chario gwellt yn eu safnau; brithylliaid yn 'codi' yn aml; cathod yn chwareus; ci yn rhedeg yn ddiamcan, neu yn ceisio dal ei gynffon, yn arwydd