Tudalen:Coelion Cymru.pdf/19

Gwirwyd y dudalen hon

gwmpas amaethdai i wylio cyfle i ladrata ymenyn a chaws a llaeth, neu unrhyw ymborth arall a ddigwyddai fod mewn amaethdy. O fethu cael lluniaeth o'r tŷ, ânt i'r beudai a godro'r gwartheg yn sych, ac ar brydiau daliant y geifr hwythau a'u godro. Eithr drwg pennaf y math hwn ydyw cyfnewid babanod. A'r fam i gysgu ar ddiwedydd â baban iach a hardd yn ei mynwes, a chael yn ei le yn y bore un o fabanod eiddil a salw y Tylwyth Teg

Yr oedd hefyd fath arall o'r Tylwyth a ragorai lawer o ran natur ac arferion. Bodau bychain oeddynt hwythau, ond yn hardd a bonheddig, ac yn gymwynasgar i ddynion. Pethau bach llawen a direidus oeddynt. Ni wnaent ddrwg i neb, ac ni welid hwy odid fyth namyn yn chwarae. Dywaid Peter Roberts mai rhai bychain bach oeddynt, â gwallt llaes, a thlws odiaeth yr olwg. Marchogent weithiau geffylau bychain, a dilynid hwy gan gŵn bach meinion. Ni wisgent byth namyn mewn gwyrdd,—lliw eu hamgylchoedd— rhag eu gweled gan farwolion.[1] Rhoddai'r math hwn bris uchel ar lanweithdra, a gwobrwyent yn hael wragedd a morynion cymen a glân. Oherwydd hyn anogid y morynion i lanhau'r tŷ yn llwyr lân bob hwyrddydd, a disgwyl yr ymwelai'r Tylwyth â'r annedd yn ystod y nos, a gadael yno arian neu drysorau eraill. Anaml yr âi'r morynion hyn i orffwys heb adael dwfr glân mewn cawg

wrth droed y grisiau, a bara ac enllyn ar y bwrdd,

  1. Yr Hynafion Cymreig, Peter Roberts (1823), td. 149.