Tudalen:Coelion Cymru.pdf/33

Gwirwyd y dudalen hon

wedi peth taerineb addawodd hithau ei briodi a bod yn ffyddlon iddo, ar yr amod nad oedd i'w chyffwrdd â haearn. Priodwyd, a ganwyd iddynt fab a merch. Trwy rinweddau'r wraig daethant yn gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at yr Ystrad daeth holl ogleddbarth Nant-y-betws, ac oddi yno i ben yr Wyddfa, ynghyd â Chwm Brwynog, ym mhlwyf Llanberis, yn eiddo iddynt. Eithr un diwrnod, a'r ddau ar y ddôl yn ceisio dal ceffyl a oedd braidd yn wyllt a chyflym, taflodd y gŵr y ffrwyn at y ceffyl i'w atal, ac ar ddamwain cyffyrddodd haearn a oedd ar y ffrwyn â'i briod. Diflannodd hithau ar amrantiad ac ni welwyd hi mwy. Ond un noson ymhen talm o amser, a'r gogleddwynt yn gryf ac oer, daeth Penelope at ffenestr 'stafell wely ei phriod a dywedyd wrtho:

Rhag bod annwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gôb ei dad;
Rhag bod annwyd ar liw can,
Yn rhodd rhowch arni bais ei mam.[1]

Y TYLWYTH TEG YN LLADRATA PLENTYN. Gadawodd gwraig Dyffryn Mymbyr, gerllaw Capel Curig, ei baban yng ngofal ei mam a oedd yn hen, ac aeth hithau i'r maes i gynorthwyo achub y cynhaeaf. Daeth ar yr hen wraig gwsg trwm, a llithrodd rhai o'r Tylwyth i'r tŷ a dwyn y baban o'i grud, a gosod un o'u babanod eiddil hwy yn ei le. Pan ddychwelodd y fam, cafodd yn

y crud fod bach gwachul a hyll yn crio â hynny o

  1. Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 42-44.