Tudalen:Coelion Cymru.pdf/37

Gwirwyd y dudalen hon

Daeth allan ganol dydd a thynnu at Gapel-y-Fan, ond nid oedd yno namyn murddun. Aeth i Ben Craig Daf a holi am Gwerfyl, eithr dieithriaid oedd yno. Aeth i Bantannas, ei gartref, a chael yno eilwaith ddieithriaid. Yn fuan daeth gŵr y tŷ o'r maes, a'r cwbl a wyddai hwnnw ydoedd, cofio clywed ei dadcû yn sôn am golli disymwth etifedd yr ystâd rai cannoedd o flynyddoedd cyn ei ddyddiau ef. Ar ddamwain, wrth godi o'i eistedd, cyffyrddodd yr amaethwr Rydderch â'i ffon, a diflannodd yntau mewn cawod o lwch.

Y mae Pantannas—adeilad diweddar—ar fryncyn sy'n cysgodi Mynwent-y-Crynwyr, ym Morgannwg. Saif Pen Craig Daf ar y mynydd rhwng gorsaf Quakers Yard a Bedlinog, ac y mae Tarren-y-Cigfrain ychydig islaw Merthyr Vale.

Y TYLWYTH TEG YN OFNI HAEARN AC YN CUDDIO'U HENW. Yn storïau’r Tylwyth Teg cyfeirir yn aml at haearn fel peth i'w ofni a'i ochel, a bu amryw sy'n gyfarwydd â llên gwerin yn dyfalu am y rheswm a cheisio esbonio'r diofrydbeth (taboo). Bernir weithiau y teflir ni'n ôl i Oes y Cerrig (Stone Age). Pan ddarganfuwyd meteloedd, ymwrthodwyd ag arfau cerrig mewn bywyd cyffredin, eithr am rai oesoedd wedyn parhawyd i ddefnyddio arfau cerrig i bob pwrpas crefyddol. Hyn oedd yr arfer drwy'r byd, ac er nad oes prawf pendant mai dyma oedd arfer hen drigolion Cymru, y mae'n lled debyg eu bod hwythau yn gaeth i'r un rheol. Tybid yn naturiol, oherwydd