Tudalen:Coelion Cymru.pdf/42

Gwirwyd y dudalen hon

Esboniad Lewis Morris ydoedd esboniad cyffredin y mwynwyr ar y Coblynnau a'u gwaith, ond y mae'n amlwg oddi wrth Wild Wales y priodolai rhai iddynt y bwriad o ddrygu'r gweithwyr. Ar ei daith trwy Gymru daethai George Borrow o Fachynlleth drwy'r Glasbwll i waith mwyn Esgair Hir, a chan nad oedd llwybrau namyn llwybrau defaid ar y mynyddoedd, trefnodd Capten y Gwaith i lanc o fwynwr ei arwain i Bonterwyd. Yn ôl ei arfer holai Borrow lawer ar ei arweinydd, ac yn ateb i'r gofyniad a oedd yn hoffi gwaith mwynwr, dywedai'r llanc yr hoffai ef yn fwy petai ysbrydion y creigiau yn peidio â'i ddychrynu. "Unwaith," meddai, "a mi yn gweithio ar fy mhen fy hun yn nyfnder y gwaith, yn sydyn, clywn sŵn rhuthrol ac ofnadwy fel pe syrthiasai rhan anferth o'r ddaear. O! Dduw? meddwn, a syrthiais drach fy nghefn. Tybiais i'r holl bwll ymollwng a'm bod wedi fy nghladdu'n fyw. Gorweddais am oriau yn ddadfyw. . . O'r diwedd llwyddais i ymlusgo hyd at waelod y pwll, a chyrraedd gweithwyr eraill. Achoswyd y sŵn gan ysbrydion y creigiau i'r diben o ddrysu synhwyrau'r mwynwyr."[1]

Dywedir y credid yn y Coblynnau tros ganrif yn ôl yn ardaloedd mynyddoedd yr Wyddfa, a bod mwynwyr Lloegr, yr Alban, a mwynwyr gwledydd eraill y byd yn credu'n gryf yn eu dylanwad a'u buddioldeb.[2]

  1. Wild Wales, George Borrow, Pen. LXXXI.
  2. Observations on the Snowdon Mountains, William Williams (1802), td. 114.