Tudalen:Coelion Cymru.pdf/64

Gwirwyd y dudalen hon

gilydd ymwelai amryw o gyfeillion Froude ag ef, ac weithiau ceid cymaint â phump neu chwech ar yr un pryd. Ar un achlysur aed i sôn am ysbrydion, ac yn eu plith Ysbryd Plas Gwynant. Digwyddasai'r Athro F. W. Newman gyrraedd y diwrnod hwnnw, ac yr oedd y tŷ eisoes yn lled lawn, ond yr oedd ystafell yr Ysbryd yn wag fel arfer. A hwy yn clywed Newman yn gwrthod â dirmyg bob syniad am bosibilrwydd ymddangosiad ysbrydion, trefnodd Froude iddo gysgu yn yr ystafell wag. Aeth Newman i'r ystafell heb wybod ei hanes, a chododd yn fore drannoeth heb gysgu eiliad drwy'r nos. Gobeithiai am gwsg trwm ac esmwyth yr ail noson, ond siomwyd ef eilwaith. Teimlai ei flino gan ryw ddylanwad cyfrin a phoenus. Holodd y forwyn bennaf, a chael mai yn ystafell yr Ysbryd y ceisiai gwsg. Un bore datguddiodd ei helynt i'r cwmni. Nid oedd, meddai, yn credu mewn ysbrydion, ond yr oedd rhywbeth anesboniadwy wedi aflonyddu arno drwy'r nos a phob nos, a barnai mai doeth fyddai dychwelyd adref ar unwaith. Nid ymwelodd Newman byth mwy â Phlas Gwynant.[1]

YSBRYD HAFOD UCHDRYD. Y mae pawb cyfarwydd â llên Cymru yn gwybod rhywbeth am Hafod Uchdryd, sydd yng nghymdogaeth Cwm Ystwyth. Perchenogion y plas yn ystod teyrnasiad y frenhines Elizabeth ydoedd Herbertiaid

  1. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 236.