Tudalen:Coelion Cymru.pdf/73

Gwirwyd y dudalen hon

V.

RHAGARWYDDION MARWOLAETH

Er cynefined ydym â marwolaeth, nid yw ei ddirgelwch yn awr fawr llai, os dim, nag ydoedd , filoedd o flynyddoedd yn ôl, ac efallai mai'r dirgelwch hwn a barodd gasglu o'i gwmpas gymaint ] o goelion. Y mae'n ddiamau fod y mwyafrif o'r coelion hyn yn gyffredin i holl rannau gwledig Cymru,—coelion ysmala nad oes gamp ar eu hesbonio, a choelion eraill dieithr, anesboniadwy a bair arswyd digymysg. Y mae eto'n aros weddillion credu mawr a chadarn yn rhagarwyddion marwolaeth.

Credid yn gryf gynt yn y "Deryn Corff" a phery'r canol oed a'r hen i gredu ynddo. Nid oes wybodaeth glir a phendant am yr aderyn hwn. Gwisgir ef â thywyllwch anhreiddiadwy, cyffelyb i'r tywyllwch a wisg yr hyn y proffwyda amdano. Y dybiaeth gyffredin yw, ei fod yn ddu ei liw ac o faintioli bronfraith, a'i lygaid mawr yn saethu allan belydrau treiddiol â'u ias fel ia. Dywedai'r Athro T. Gwynn Jones wrthyf unwaith y credid gynt mewn rhai ardaloedd mai aderyn drudwy ydoedd. Clywais ei alw hefyd yn ddylluan frech. Eithr pa enw bynnag a roddir iddo, meddylir amdano fel peth annaearol a ofnir hyd ddychryn. Eheda yn y nos-nos dywyll-i ffenestr y claf a