Tudalen:Coelion Cymru.pdf/74

Gwirwyd y dudalen hon

churo'n ysgafn â'i big ar y gwydr. Bydd hyn yn arwydd sicr o farwolaeth buan y claf. Peth hawdd i'r bach ei ffydd yn y pethau hyn yw esbonio gwaith aderyn yn tynnu at ffenestr olau a'i tharo. Tua deugain mlynedd yn ôl, a mi'n darllen neu geisio gweithio pregeth un noson ar gyfyl deuddeg, a glaw trwm yn disgyn trwy wynt cryf, clywn guro ysgafn fel curo pwyntil ar wydr y ffenestr. Daeth y "Deryn Corff" i'm meddwl ar drawiad, ond megais ddigon o wroldeb i fyned allan a chwilio'r helynt. Gwelais yr aderyn ar y ffenestr olau, a deliais ef. Nid aderyn drudwy mohono na'r ddylluan frech nac un o liw du a maint bronfraith, eithr peth bach ofnus yn crynu fel deilen, o faint a lliw gwas-y-gog neu lwyd-y-berth. Rhyw greadur barus a'i herlidiodd o'i glwyd i'r nos ystormus, a thynnodd yntau at y golau. Bu ugeiniau farw yn y pentref er y noson honno, ond ni wybûm byth pwy a oedd ym meddwl yr aderyn a ddeliais.

Yr arwydd sicraf a gad erioed o farwolaeth ydyw'r Gannwyll Gorff. Fflam fechan welw-las ydyw, a ddaw o enau'r sawl a fydd farw'n fuan, ac a deithia'n araf lwybr y gladdedigaeth i'r bedd. Amrywia maint y fflam yn ôl oedran y person sydd i farw. Deddf y Gannwyll ydyw cychwyn o dŷ'r un a gynrychiola a diffodd ar fan y bedd. Eithr y mae eithriadau.

Er nad oes i Gannwyll Gorff un diben namyn rhaghysbysu am farwolaeth person arbennig, dylid gochel ei llwybr, oblegid o gyffwrdd â dyn pair