Tudalen:Coelion Cymru.pdf/86

Gwirwyd y dudalen hon

ohonynt y gwartheg, ac wedi beio a holi, adroddwyd wrthynt yr hyn a glywyd ac a welwyd. Ymhen pythefnos bu farw William Thomas, Seren, a dydd y claddu yr oedd y ddau fachgen yn dystion eilwaith o'r pethau a glywyd ac a welwyd y min nos hwnnw o Bencwarel.

Digwyddodd hynny tros ddeugain mlynedd yn ôl, ond y mae Evan Jones a John Jenkins yn fyw heddiw, ac yn credu yng ngwirioneddolrwydd y weledigaeth a gawsant cyn gryfed ag y credant mewn unrhyw beth.

Mynnai llawer gynt roddi coel ar yr hyn a elwid Tolaeth neu Dolaeth fel arwydd sicr o farwolaeth. Sŵn traed neu gerbydau, neu guro byrddau, neu ganu clychau ganol nos, ydoedd Tolaeth. Clywodd yr hen bobl bethau rhyfedd, ac o wrando ar dystiolaeth rhai mewn oed pan oeddem ni'n blant, y mae'n anodd i ninnau beidio â chredu mewn rhyw fath o arwyddion, oblegid, hyd y gwelaf fi, nid oes yn awr fawr neb yn rhagori o ran na dealltwriaeth na diwylliant na geirwiredd ar y genhedlaeth o'r blaen. Mor anodd yw amau person oedrannus a ddywaid iddo droeon glywed drymder nos guro gweithio arch cyn marwolaeth cymydog? Amryw flynyddoedd yn ôl bu farw modryb i mi ym mhentref Taliesin, ac yr oedd yn wraig ddeallus a phwyllus a geirwir. Ni wn i am ragorach modryb gan neb. Clywsai hi'r curo yn fynych, a soniodd wrthyf am y peth droeon. Preswyliai heb fod ymhell o weithdy John Dafis, y saer, ac yn aml deuai